fbpx

Taith Teyrngedau

Mae’r digwyddiad hudolus ‘Goleuo’r Nadolig’ yn dod i ysbytai ledled Gogledd Cymru. Trwy gydol y gaeaf, mae cymunedau lleol wedi bod yn rhoi goleuadau i gofio am anwyliaid ac i ddiolch i unigolion arbennig sydd hefyd wedi goleuo ein bywydau eleni.

Mae’r teyrngedau a roddwyd i goffau ffrindiau a theulu neu i ddangos gwerthfawrogiad i’r rhai hynny sy’n annwyl iddynt, ac maen nhw rwan i’w gweld ar Wal Oleuadau Goleuo’r Nadolig.

Bellach bydd y teyrngedau hyn hefyd yn ymddangos mewn sioe daflunio arbennig – Taith Deyrnged Goleuo’r Nadolig.

Fe’ch gwahoddir i ddod i fwynhau’r sioe deyrnged unigryw hon. Bydd yr arddangosiadau taflunio yn cael eu dangos yn yr ysbytai a restrir isod rhwng 6pm a 6:30 pm ar y dyddiadau a nodir. Noder mai niferoedd cyfyngedig a gaiff fynychu, ac mae’n ofynnol ichi gofrestru’ch lle er mwyn gallu gweld y sioe deyrnged yn eich ysbyty lleol.

Bydd mwy o fanylion am union leoliad y sioe, a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl pan gyrhaeddwch, yn dilyn ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad.

Fel Elusen GIG Gogledd Cymru, mae angen i Awyr Las arwain y ffordd wrth sicrhau mai dim ond y rhai sydd wir angen bod yn ein hysbytai sy’n ymweld â’n hysbytai ar hyn o bryd, ac am y rheswm yma mae’n rhaid i ni ohirio’r Daith Teyrngedau tan fis Mawrth 2022. Mae hyn nawr yn golygu y bydd yr holl teyrngedau wnaed cyn yr 20fed o Ragfyr nawr yn ymddangos ar waliau ein hysbytai yn 2022. Bydd mwy o wybodaeth am y Daith Teyrnged sydd yn cael ei hail drefnu ar gael mis Ionawr 2022. Mae’n ddrwg gennyf am yr anghyfleustra a’r siom y gallai hyn ei achosi.