Goleuadau Nadolig 2021 Telerau ac Amodau
Goleuadau ‘Light Up Christmas’ – Teyrngedau
- Gofynnir yn garedig i bawb sy’n cyflwyno golau i roi rhodd, ac awgrymir swm o £10. Ni ellir ad-dalu’r rhodd yma.
- Bydd y rhoddion a dderbynnir yn cael eu dynodi i’r ward / gwasanaeth / cronfa elusennol a ddewisir gan y person sy’n gwneud y rhodd. Defnyddir yr holl roddion yn unol â dymuniadau rhoddwyr. Mewn achos annhebygol na ellir cyfeirio’r rhodd yn union fel y mae’r rhoddwyr yn dymuno, bydd y rhodd yn cael ei rhoi i gronfa ward / gwasanaeth / elusen sydd mor agos at ddymuniadau’r rhoddwr â phosibl.
- Bydd yr holl Gymorth Rhodd a dderbynnir yn cael ei gymhwyso yn unol â pholisi Cymorth Rhodd ‘Awyr Las’, gan gefnogi eu hamcanion elusennol yn unol â dymuniadau rhoddwyr lle bynnag y bo modd.
- Y deyrnged a wneir ar-lein fydd yr unig deyrnged y gellir ei rhoi: ni ellir gwneud newidiadau i’r deyrnged wedyn. Gofynnir i bawb sy’n cyflwyno golau sicrhau eu bod yn gwirio eu teyrnged i sicrhau bod y llun a’r neges yn union fel y bwriadwyd cyn cyflwyno’r fersiwn derfynol.
- Bydd yr holl deyrngedau a gyflwynir yn cael eu cynnwys ar y Wal Goleuadau ar-lein.
- Bydd pob teyrnged yn yr iaith a ddewisir gan yr unigolyn sy’n gwneud y cysegriad. Sylwch: ni fydd y deyrnged yn ymddangos yn Gymraeg a Saesneg oni bai bod y person sy’n gwneud y deyrnged yn cynnwys y ddwy iaith yn y neges. Sylwch fod cyfyngiad ar nifer y nodau sydd ar gael.
- Sylwch ar y dyddiadau derbynneb canlynol ar gyfer teyrngedau digidol. Dylai eich teyrnged bost gyrraedd cyn pen dau ddiwrnod o’r dyddiad derbyn e-bost oni bai bod y Tîm Cefnogi Awyr Las yn eich hysbysu fel arall.
Os ydych chi’n creu eich teyrnged rhwng y dyddiadau isod yn 2021… | … gallwch ddisgwyl derbyn eich teyrnged ddigidol trwy e-bost a’i weld ar y Wal Goleuadau ar-lein erbyn: |
---|---|
Rhwng dydd Llun 1 Tachwedd a 23:59 ddydd Sul 14 Tachwedd | 23:59 ar ddydd Mawrth 16 Tachwedd |
Rhwng dydd Llun 15 Tachwedd a 23:59 ddydd Sul 21 Tachwedd | 23:59 ar ddydd Mawrth 23 Tachwedd |
Rhwng dydd Llun 22 Tachwedd a 23:59 ddydd Sul 28 Tachwedd | 23:59 ar ddydd Mawrth 30 Tachwedd |
Rhwng dydd Llun 29 Tachwedd a 23:59 ddydd Sul 5 Rhagfyr | 23:59 ar ddydd Mawrth 7 Rhagfyr |
Rhwng dydd Llun 6 Rhagfyr a 23:59 ddydd Sul 12 Rhagfyr | 23:59 ar ddydd Mawrth 14 Rhagfyr |
Rhwng dydd Llun 13 Rhagfyr a 23:59 ddydd Sul 19 Rhagfyr | ar ddydd Mawrth 7 Rhagfyr |
Dydd Llun 20 Rhagfyr a 23:59 ddydd Mercher 22 Rhagfyr | ar ddydd Mawrth 23 Rhagfyr |
Sioe Oleuadau ‘Goleuo’r Nadolig – Light Up Christmas’ – y Daith Deyrngedau
- Er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan, rhaid i’r teyrngedau ddod i law erbyn 23:59 ar ddydd Sul 5ed Bydd teyrngedau a wneir ar ôl y dyddiad hwn dal yn cael eu cynnwys ar Wal y Goleuadau, a bydd pawb sy’n gwneud eu hymroddiad yn dal i dderbyn cofrodd.
- Bydd yr holl deyrngedau yn cael eu cynnwys yn y Sioe Oleuadau ym Mhier Garth Bangor.
- Bydd oddeutu 120 o deyrngedau yn cael eu cynnwys mewn sioeau ar y daith taflunio teyrngedau. Bydd y teyrngedau hyn yn cael eu blaenoriaethu gan: y Gwasanaeth a ddewisir (er enghraifft, bydd y rhai sy’n rhoi i wasanaethau yn Ysbyty Wrecsam Maelor neu yn y cyffiniau yn cael eu blaenoriaethu i ymddangos ar y sioe daflunio yn Ysbyty Wrecsam Maelor) a Chod Post (bydd cyfeiriad y goleuadau a gyflwynir hefyd yn cael ei ystyried wrth flaenoriaethu pa deyrngedau fydd yn ymddangos ar y daith deyrngedau.
- Nid yw’r rhai sy’n cyflwyno golau yn cael eu gwahodd yn awtomatig i fynychu’r sioeau taflunio. Cyfyngir presenoldeb ar y Daith Deyrnged deithiol i rai a gaiff wahoddiad yn unig. Bydd pawb sy’n cyflwyno golau yn derbyn dolen i weld y daith deyrnged yn rhithiol.
Fel Elusen GIG Gogledd Cymru, mae angen i Awyr Las arwain y ffordd wrth sicrhau mai dim ond y rhai sydd wir angen bod yn ein hysbytai sy’n ymweld â’n hysbytai ar hyn o bryd, ac am y rheswm yma mae’n rhaid i ni ohirio’r Daith Teyrngedau tan fis Mawrth 2022. Mae hyn nawr yn golygu y bydd yr holl teyrngedau wnaed cyn yr 20fed o Ragfyr nawr yn ymddangos ar waliau ein hysbytai yn 2022. Bydd mwy o wybodaeth am y Daith Teyrnged sydd yn cael ei hail drefnu ar gael mis Ionawr 2022. Mae’n ddrwg gennyf am yr anghyfleustra a’r siom y gallai hyn ei achosi.
Digwyddiad Goleuo ‘Goleuo’r Nadolig – Light Up Nadolig – 10fed Rhagfyr ym Mhier Garth Bangor
- Bydd yr arddangosfa ‘Goleuo’r Nadolig’ ar Bier Garth Bangor yn cael ei oleuo ar ddydd Gwener 10ed Rhagfyr 2021 yn y digwyddiad ‘Goleuo’r Nadolig’.
- Mae’r digwyddiad ‘Goleuo’r Nadolig – Light Up Christmas’ hwn yn ddigwyddiad gan Gyngor Dinas Bangor.
- Mae mynediad i’r digwyddiad hwn trwy docyn yn unig.
- Rhaid prynu tocynnau ar-lein yn Awyr Las Light Up Christmas 2021 Bangor Pier, North Wales <https://www.lightupchristmas.wales/> cyn mynychu’r digwyddiad.
- Ni ellir ad-dalu tocynnau a fydd yn £2 yr un.
- Caniateir i bawb o dan 18 oed fynychu’r digwyddiad ‘Goleuo’r Nadolig -Light Up Christmas’ yn rhad ac am ddim.
- Mae pawb sydd wedi prynu tocynnau blynyddol / oes ar gyfer Pier Garth Bangor hefyd yn cael tocyn am ddim.
- Bydd y tâl mynediad o £2 yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng Awyr Las a Chyfeillion Pier Garth Bangor. Bydd y ffi mynediad yn cael ei chyfeirio at Gronfa Cadw’r Curiadau ‘Awyr Las’ i ariannu diffibriliwr newydd ar gyfer Pier Garth Bangor a chefnogaeth diffibrilwyr ychwanegol ym Mangor a’r cyffiniau. Yn ogystal, bydd y ffi mynediad yn cael ei defnyddio gan Gyfeillion Pier Garth Bangor i gefnogi cynnal a chadw, a digwyddiadau yn y dyfodol, ar Bier Garth Bangor mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Bangor.
- Pe bai’r digwyddiad yn cael ei ganslo, byddai pob ymdrech i alluogi lanswyr i lansio ‘Goleuo’r Nadolig – Light Up Christmas’ yn rhithiol. Bydd Cyngor Dinas Bangor – ac Awyr Las hefyd yn ceisio gwahodd pob deiliad tocyn i ddigwyddiad yn y dyfodol yn rhad ac am ddim pe bai angen canslo lansiad y goleuo.
- Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad.
- Bydd goleuadau digwyddiad ‘Goleuo’r Nadolig – Light Up Christmas’ ar Bier Garth Bangor yn disgleirio o 10fed Rhagfyr i’r 4ydd mis Ionawr. Mae mynediad i’r Pier yn 50c y pen (yn rhad ac am ddim i’r rhai sydd wedi prynu tocynnau blynyddol / oes ar gyfer y Pier); mae’r holl ffi mynediad yn cael ei chasglu gan Gyfeillion Pier Garth Bangor i gefnogi Cyngor Bangor i gynnal a chadw’r Pier. Bydd y goleuadau ymlaen a’r Pier ar agor i ymwelwyr rhwng 5pm ac 8pm ar y nosweithiau canlynol, oni bai bod tywydd gwael (gan gynnwys rhagolygon o wyntoedd cryfion neu law trwm):
-
- Dydd Sadwrn 11/12/21
- Dydd Sul 12/12/21
- Dydd Iau 16/12/21
- Dydd Gwener 17/12/21
- Dydd Sadwrn 18/12/21
- Dydd Sul 19/12/21
- Dydd Llun 20/12/21
- Dydd Mawrth 21/12/21
- Dydd Mercher 22/12/21
- Dydd Llun 27/12/21
- Dydd Mawrth 28/12/21
- Dydd Mercher29 / 12/21
- Dydd Sul 02/01/22
- Dydd Llun 03/01/22
Cwestiynau Cyffredin
A fydd y Goleuadau ar Bier Bangor yn cael eu rhifo, felly mae gan bob teyrnged olau penodol?
Ni fydd y teyrngedau yn cael eu rhestru ar y Pier am y rhesymau hyn:
- Ystyriwyd y difrod amgylcheddol posibl: plastig, metel neu hyd yn oed edau yn dod oddi ar y bwlb ac yn peryglu bywyd gwyllt ac yn llygru’r Fenai a’r tir o’i amgylch.
- Mae’r gost ychwanegol yn afresymol. Yn ogystal, mae’n well mwynhau’r arddangosfa oleuadau yn ei chyfanrwydd. Os yw un golau wedi’i ddifrodi neu’n methu goleuo un noson, gall gweddill y goleuadau ddisgleirio yn llachar o hyd.
- Ystyrir bod y risgiau o achosi anaf neu niwed i berson neu’r goleuadau eu hunain trwy gynnwys tag rhif ac annog pobl i gyffwrdd â’r goleuadau yn uchel.
- Oherwydd Covid-19, nid yw’r trefnwyr eisiau annog pobl i ymgynnull o amgylch golau penodol na chyffwrdd â nifer o oleuadau.
Er mwyn sicrhau bod pob teyrnged yn cael ei chydnabod yn gyhoeddus, mae’r sioe daflunio teithio wedi’i threfnu yn lle rhifo goleuadau’n benodol.
Pam nad yw’r Daith Deyrnged yn dod i ysbyty yn agos i mi?
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) lawer o safleoedd, ac yn anffodus dim ond i 8 lleoliad gwahanol yn ogystal â Phier Bangor y gallai’r Daith Deyrnged fynd. Dewiswyd y lleoliadau ar gyfer y Daith Deyrnged gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ystyriwyd y canlynol wrth flaenoriaethu’r lleoliadau: lleoliad i sicrhau cynrychiolaeth ar draws y rhanbarth; pa wardiau / gwasanaethau a ddewisodd gymryd rhan i godi arian trwy oleuo’r Nadolig; nifer y staff a’r cleifion mewnol ar y safle. Y gobaith yw y gall y daith deyrngedau ymweld â lleoliadau eraill yn 2022.
Ni allaf weld y ward neu’r gwasanaeth gofal iechyd yr hoffwn eu cefnogi wedi’u cynnwys ar y rhestr o gronfeydd y gallaf eu cefnogi. Beth ddylwn i ei wneud?
Mae’r holl staff ar draws BIPBC wedi cael cyfle i gynnwys eu ward / gwasanaeth / gwasanaeth sy’n agos at eu calon ar y rhestr o feysydd i’w cefnogi. Fel Elusen GIG Gogledd Cymru, gall Awyr Las gefnogi cleifion a staff ledled Gogledd Cymru. Hyd yn oed os nad yw’r ward neu’r gwasanaeth rydych chi am ei gefnogi ar y rhestr o gronfeydd i’w cefnogi, gallwch ddewis ‘Hoffwn gefnogi ward neu adran arall’, a nodi beth ydyw. Gall Tîm Cymorth Awyr Las sicrhau bod y gwasanaeth o’ch dewis yn elwa o’r gefnogaeth rydych chi’n ei rhoi.